Viva Cariad – A Swansea Story of Love and Music
Last week we had the pleasure of performing ‘Viva Cariad’ live on Heno, S4C. The tune was originally written as a wedding gift, and there’s an interesting little story behind the title…
Years, ago, in my late teens me (Angharad) and my friends were uber fans of the Swansea rock band Viva Machine. We used to follow them everywhere – from the small local gigs around town, to the big Student Union productions in Wales and England. Such was the obsession that we would plan our girly get togethers around Viva Machine’s tour dates! I remember one tour in particular where Viva Machine were supporting The Automatic (one hit wonders, with Monster) and we were there – The Swansea Massive - at Oxford Brookes SU, right at the front row cheering on those Swansea rockers. After the gig, like every other, we would hang around at the stage door eagerly awaiting a post-show chat with members of the band.
Many years have passed, and a lot of history has happened since those heady, student days, but to cut a long story short, one of those groupies, eventually ended up marrying the drummer of the band. I wrote this tune as a wedding gift for Dai and Rhianedd Francis, who got married at St John’s Church, Gowerton in October 2016, and DnA performed it as they signed the register.
Sadly, Viva Machine cease to exist, but Dai along with members of Viva Machine, now play in two other awesome bands. PICSEL and Broken Fires (for whom Angharad sometimes records string parts) are very much alive and gigging regularly – so go check them out!
Wythnos diwetha cawsom y pleser o berfformio ‘Viva Cariad’ yn fyw ar Heno, S4C. Anrheg priodas oedd yr alaw yma yn wreiddiol, ac mae stori fach difyr tu ôl y teitl…
Blynyddoedd yn ôl, yn fy arddegau, roeddwn i (Angharad) a fy ffrindiau yn ffans mawr o'r band roc o Abertawe Viva Machine. Roedden ni arfer dilyn y grŵp i bob man – o’r gigiau bach lleol o gwmpas y dre, i’r cynhyrchiadau mawr yn Undebau Myfyrwyr ar draws Cymru a Lloegr. Yn wir, byddem yn cynllunio ein ‘girly get-togethers’ o gwmpas taith y band! Dwi’n cofio un taith yn arbennig pan roedd Viva Machine yn cefnogi The Automatic (pwy sy’n cofio’r gân Monster?) a daethant i berfformio yn Undeb Myfyrwyr Oxford Brookes (lle roeddwn i’n astudio ar y pryd). Fel pob gig arall, bydden ni - Y Swansea Massive – yn ymgasglu ar y rhes flaen i gefnogi’r rocars o Abertawe, ac ar ôl y shoe, bydden ni’n loetran o gwmpas drws y llwyfan, yn awchu am gael sgwrs gydag aelodau o’r band!
Ta beth, sawl blwyddyn yn ddiweddarach, gwnaeth un o’r ‘groupies’ yna diweddu lan yn priodi drymiwr y band. Ym mis Hydref 2016 gwnaeth fy ffrind Rhianedd priodi Dai Francis yn eglwys Sant Ioan, Tregwyr. Gwnes i sgwennu’r alaw hon fel anrheg priodas iddynt, a gwnaeth DnA perfformio hi wrth iddynt arwyddo’r cofrestr.
Yn anffodus, dyw Viva Machine ddim yn bodoli bellach, ond mae aelodau’r band wedi ffurfio dau grŵp gwych newydd, sef PICSEL a Broken Fires (fe glywch llinynau Angharad ar recordiadau Broken Fires). Ewch ar ei hôl nhw!
Pleser mawr ydy perfformio i gynulleidfaoedd Cymraeg ei iaith, a hynny achos, yn aml iawn mae 'na fardd yn eu plith! Roeddwn ni'n perfformio yn Nhy Tawe yn ddiweddar, ac yn dilyn y perfformiad, ymddangosodd y gerdd yma gan Huw Dylan Owen ar Twitter:
Canmoliaeth o'r mwyaf yw i ysbrydoli pennillion fel hyn!